2009
Llais Aeron Ysgol Pennant Chwefror
Arad Goch.
Mae Dosbarth Mr Davies a Mrs Lloyd wedi cael cyfle i fwynhau perfformiadau
gan Gwmni Theatr Arad Goch yn ddiweddar.
Castell Henllys.
Aeth dosbarth Mr Davies i Gastell Henllys yn ddiweddar fel rhan
o wersi hanes ar y Celtiaid. Cafodd y disgyblion gyfle i wneud
gweithgareddau amrywiol sef coginio bara, gwehyddu basgedi a adeiladu
wal o fwd.
Pel-rwyd.
Aeth tim o ferched i gymryd rhan yng nghystadleuaeth pêl-
rwyd y cylch yn Ysgol Uwchradd Aberaeron yn ddiweddar.
Llais Aeron Ysgol Pennant Mawrth 2009
Marc Safon
Mae'r ysgol wedi derbyn gwobr Marc Safon gan yr Asiantaeth Sgiliau
Sylfaenol am y trydydd tro.
Pentre Bach
Aeth dosbarth y babanod i ddathlu diwrnod llyfr yn Pentre Bach,
Blaenpennal yn ddiweddar. Gwisgodd y disgyblion i fyny fel mor-ladron.
Fe wnaethom gyfarfod Barti Ddu, Sion Cwilt a Barti Ddu.
Eisteddfod Cylch yr Urdd.
Llongyfarchiadau i Mared Jones am ddod yn gyntaf yng nghystadleuaeth
Unawd Telyn a Unawd Piano. Pob lwc yn Eisteddfod y Sir.
PC Jackie a Nyrs Heather.
Daeth PC Jackie Stevenson a'r nyrs ysgol Heather Whalley i wneud
gweithgareddau amrywiol efo'r disgyblion yn ddiweddar.
Trwyne Coch.
Daeth Aled Pink a chacennau a goginiwyd adre i werthu yn yr ysgol
i godi arian ar gyfer diwrnod y trwyne coch.
Cyngerdd
Cynhaliwyd cyngerdd o eitemau yr Eisteddfod yn yr ysgol yn ddiweddar.
Dyma canlyniadau cystadlaethau gwaith cartref
.
Canlyniadau Eisteddfod 2009
Gwisg CA1
Merched 1af- Nicole
Bechgyn 1af- Charlie a Tomos
2il- Tomos a Steffan
3ydd- Neil, Finley, Iwan, Gareth a Llyr
Gwisg CA2
Merched 1af- Megan
2il-Anwen
3ydd- Mared, Shannon a Lucy
Bechgyn 1af- Stephen
2il- Ceri a Rhodri
3ydd- Caleb a Bradley
Cennin CA1
1af- Tomos
2il-Steffan
3ydd- Gareth
Cennin CA2
1af- Megan
2il- Gareth
Cenhinen Pedr CA1
1af- Tomos
2il-Steffan
3ydd- Gareth
Cenhinen Pedr CA2
1af- Ceri a Rhodri
2il-Taya a Anwen
3ydd- Shannon a Megan
2008
Llais Aeron Ysgol Pennant Mis Ionawr.
Pantomeim.
Aeth yr ysgol gyfan i weld pantomeim gan gwmni Mega yn Theatr
y Werin yn ddiweddar.
Sinema
Aeth yr ysgol gyfan i'r sinema ar ddiwedd y tymor i weld '"Santa
Claus 3"
Roedd pawb wedi mwynhau.
Canu Carolau
Diolch i Glwb Ffermwyr Ifanc Pennant am y gwahoddiad i ymuno efo
nhw i ganu carolau tu allan i'r ysgol cyn y Nadolig.
Parti Nadolig.
Daeth Santa eleni eto i roi anrhegion i'r plant a cafwyd parti
hyfryd a digon o fwyd blasus ar ddiwedd y tymor.
Gwasanaeth Nadolig.
Cawsom ein Gwasaneth Nadolig eleni yr Eglwys Llanbadarn Trefeglwys.
Roedd y gwasanaeth yn seiliedig ar stori'r geni.
Disgyblion Newydd.
Croeso mawr i ddisgyblion newydd yn nosbarth Mrs Lloyd sef Nicole
Palmer a Steffan Evans. Gobeithio byddwch yn hapus iawn yn ein
plith.
Pel Rwyd.
Roedd merched dosbarth Mr Davies wedi cymryd rhan yng nghystadleuaeth
pel rhwyd yr Urdd yn Llangrannof yn ddiweddar. Da iawn iddynt
am wneud yn arbennig o dda.
Llais Aeron Mawrth Ysgol Pennant
Mari Pickering
Mae Mrs Mari Pickering wedi ymddeol fel drysoryddes Ffrindiau
Ysgol Pennant ar ol bron ddeuddeg mlynedd. Hoffai staff, disgyblion
a'r rhieni ddiolch o galon i Mari am ei gwaith caled, ymroddiad
a chyfeillgarwch dros y cyfnod. Fe fydd yna groeso cynnes i Mari
yn yr ysgol am byth a gobeithir i Mari fod yn ffrind i'r ysgol
am byth hefyd.
Yr Urdd
Daeth Michael Morgans i wneud gweithgareddau Cymorth Cyntaf efo'r
disgyblion yn ddiweddar. Hefyd daeth Mary Edkins i ddangos i'r
disgyblion sut i osod a eistedd wrth fwrdd yn gywir. Daeth Mr
a Mrs Byron Williams i siarad am waith y Gideoniaid efo'r disgyblion.
Diolch yn fawr iddynt am roi eu hamser i'r disgyblion roeddynt
wedi dysgu llawr a wedi mwynhau yn fawr iawn.
Eisteddfod yr ysgol
Cynhaliwyd eisteddfod yr ysgol eleni yn y capel. Diolch yn fawr
iawn i mrs meima Morse am feirniadu, Mrs Lynne James am gyfeilio
ac i rieni'r ysgol am drefnu lluniaeth ar ddiwedd y prynhawn.
Daeth rhieni a ffrindiau'r ysgol ynghyd i wrando ar a chefnogi
ymdrechion y disgyblion. Roedd y plant yn arbennig wrth barddoni,
llefaru a chanu a buodd cystadlu brwd i benderfynu ar y cor a'r
ty buddugol. Diolch i'r plant am brynhawn ardderchog. Roedd y
pwyntiau yn agos iawn ond dyma Lucy Evans yn cael ei henwi'n brif
lenor, Arthur yn ennill y cor a Llywelyn yn gorffen fel y ty buddugol.
Eisteddfod y cylch
Llongyfarchiadau mawr i bawb fu'n cystadlu yn Felinfach. Llongyfarchiadau
arbennig i Mared Jones ar fynd ymlaen i eisteddfod y sir a dod
yn drydydd yn Aberystwyth yng nghystadleuaeth unawd telyn.
Clwb Ffermwyr Ifanc
Diolch yn fawr iawn i CFfI Pennant am ei rhodd hael iawn eleni
eto yn dilyn canu carolau o gwmpas y pentref.
Ymweliad
Braf oedd gweld dosbarth Mrs Lloyd yn mwynhau ym Mhentre Bach
yng nghwmni Sali Mali a Jac y Jwc wrth ddathlu Diwrnod y Llyfrau.
Llongyfarchiadau
Da iawn Chelsey Cody ar ennill nifer o fedalau yn ddiweddar ym
mhencampwriaeth nofio gorllewin Cymru.
Trawsgwlad
Llongyfarchiadau i Amy Mawson a Ceri Eastment sydd wedi mynd ymlaen
i gynrychioli'r ysgol yn nhrawsgwlad y sir.
Cyfnod Mamolaeth
Mae Mrs Lloyd yn gadael yr ysgol am gyfnod mamolaeth. Pob lwc
i Betsan a Delwyn yn ystod yr amser cyffrous sydd o'u blaenau.
Mae Mrs Ann Jones, Ty Cam yn ymgymryd a swydd Mrs Lloyd tan y
Nadolig. Croeso iddi.
Llais Aeron Mis Gorffennaf
Fferm Penwern
Ar ddydd Mawrth Mehefin 24ain aethom ni i gyd ar ymweliad a Fferm
Penwern. Cawsom brynhawn diddorol iawn yn cerdded o gwmpas y fferm
a gweld yr anifeiliaid a'r cnydau amrywiol sydd ar y fferm. Diolch
yn fawr iawn i Mr a Mrs Fychan Tudur a Manon am y croeso cynnes
a gawsom ni- fe wnaethom ni i gyd fwynhau yn fawr iawn.
Twm Sïon Cati
Bu plant yr Adran Iau yn gweld y ddrama Twm Sïon Cati yn
Theatr Felin-fach ar ddydd Llun Mehefin 30. Mwynhaodd y plant
y perfformiad yn fawr iawn.
Trip yr Ysgol
Eleni aeth yr ysgol ar drip i'r Parc Dinosoriaid ger Dinbych
y Pysgod ar ddydd Iau Gorffennaf 3ydd. Er i ni gael glaw'r holl
ffordd i lawr daeth yr haul allan ar ôl i ni gyrraedd ac
fe gawsom ni ddiwrnod hyfryd. Roedd digon i'w weld a'i wneud yno
a bu'r plant i gyd yn cerdded ar hyd llwybr y dinosoriaid a oedd
yn mynd trwy'r goedwig. Diolch yn fawr iawn i Elen Lionel a Rhian
Jones am eu cymorth gyda'r plant
Diwrnod i'w gofio!
Diwrnod Mor Ladron
Bu dydd Gwener Gorffennaf 4ydd yn ddiwrnod cyffrous i lawr yn
ysgol Llannon gan fod y plant wedi gwisgo i fyny fel Mor- Ladron!
Bu'r plant yn astudio Mor- Ladron enwog yn y gwersi Hanes y tymor
hwn felly penderfynwyd cynnal diwrnod o weithgareddau yn ymwneud
a Mor Ladron. Bu'r plant yn gwneud posau, gemau, gwaith crefft
ac yn canu caneuon yn ystod y dydd.
Blwyddyn 6
Yn ystod y tymor mae plant Blwyddyn 6 wedi bod yn mynychu'r diwrnodau
pontio i lawr yn Ysgol Gyfun Aberaeron. Ar ddiwedd y tymor byddwn
yn ffarwelio a Amy, Lucy Chelsea, Dafydd Dolan a Ryan. Pob lwc
i chwi i gyd yn yr Ysgol Uwchradd a diolch am eich cyfraniad i
Ysgol Pennant ar hyd y blynyddoedd -byddwn yn gweld eich eisiau
chi yn fawr iawn.
Llais Aeron Mis Hydref Ysgol Pennant
Llif yn yr ysgol
Dros gwyliau'r haf daeth llif dwr trwy'r ysgol gan achosi llawer
o ddifrod a chollwyd adnoddau a gwaith y plant yn ogystal. Bu'n
rhaid symud popeth a oedd yn yr ysgol allan er mwyn i'r gweithwyr
i osod llawr newydd yn nosbarth Mr Davies a charped newydd yn
nosbarth Mrs Lloyd. Erbyn hyn rydym yn dechrau cael trefn ar bethau
eto ond bu'n gyfnod diflas i bawb. Diolch yn fawr i bawb am yr
holl gymorth yn ystod yn adeg yma.
Croeso
Pleser yw croesawi'r plant newydd sydd wedi dechrau yn yr ysgol
y tymor yma. Mae Neil Cheketts wedi dechrau yn nosbarth y babanod
ac mae Atma a Taran Black wedi cychwyn yn nosbarth Mr Davies.
Croeso cynnes iawn i chi i gyd a gobeithio byddwch chi'n hapus
iawn yn Ysgol Pennant.
Croeso hefyd i Charlotte Curle sydd yn dod i weithio yn yr ysgol
fel rhan o'i chwrs yng Ngholeg Ceredigion. Bydd Charlotte yma
bob dydd Llun a dydd Mawrth tan y Nadolig.
Sioe
Bu dosbarth y plant bach yn gweld sioe 'Llyfr Bach y Plant' yn
Theatr Felin-fach ar Fedi 23ain. Roedd yn sioe yn olrhain hanes
rhai o gymeriadau Llyfr Mawr y Plant. Fe wnaeth pawb fwynhau yn
fawr iawn.
Pêl-droed
Aeth tîm o fechgyn yr ysgol i chwarae yng nghystadleuaeth
5 bob ochr yn Urdd yn Llangrannog ar Fedi'r 26ain. Er na chawsant
lwyddiant y tro yma fe roddodd pawb o'u gorau yn ystod y dydd
a chael llawer o fwynhad yn chwarae.
Cwrdd Diolchgarwch
Ar ddydd Iau Hydref 2il cynhaliwyd Cwrdd Diolchgarwch yr ysgol
yn Eglwys Llanbadarn. Thema'r diolchgarwch eleni oedd 'Diolch'
i'r bobl a roddodd gymorth i ni yn ystod yr haf pan ddaeth y llif
drwy'r ysgol. Bu'r plant yn darllen penillion am y glaw mawr
yn ogystal â chanu ac adrodd am hanes arch Noa. Daeth cynulleidfa
dda i'r gwasanaeth ac yn ystod y prynhawn gwnaethpwyd casgliad.
Roedd y Cyngor ysgol wedi penderfynu bod arian y casgliad eleni
yn mynd at yr elusen Marie Curie. Casglwyd 108-65 yn ystod y casgliad-
diolch yn fawr i bawb.
Taith Gerdded
Ar ddydd Sadwrn Hydref 11eg aeth nifer o rieni, plant a chyfeillion
yr ysgol ar daith gerdded i godi arian i goffrau'r ysgol. Cawsom
fore go sych i gerdded ac roedd pawb yn mwynhau cerdded a chymdeithasu
ar yr un pryd.
Bore dymunol iawn i bawb.
Llais Aeron Mis Tachwedd Ysgol Pennant
Aeth dosbarth y babanod ynghyd a babanod ysgolion Cilcennin a
Llannon ar ymweliad ag Aberteifi ar ddydd Gwener Hydref 17eg.
Buom yn ymweld â'r castell a chael ychydig o'r hanes wrth
gerdded o gwmpas y safle. Yna ymlaen i fwyta ein tocyn yn Teifi
Mania cyn cael cyfle i chwarae yno ar yr amrywiol offer. Roedd
yn drip hyfryd a phawb wedi mwynhau mas draw.
Hyfforddiant beiciau
Mae Mr Malcolm Charlton yn ymweld â'r ysgol yn wythnosol
ar hyn o bryd i roi hyfforddiant reidio beic i blant Blwyddyn
5 a 6.
Bocsys Rotary
Bu Mrs Lowri Jones, Mr Donald Jones Cara Phillips a Ceiron Craine
yn siarad â'r plant yngl?n â chasglu nwyddau i'r bocsys
ar gyfer eu hanfon i blant tlawd mewn gwledydd tramor. Ar hyn
o bryd mae'r plant yn brysur yn llenwi'r bocsys i'w anfon i achos
teilwng yma.
Llyfr Mawr y Plant
Bu plant yr adran Iau yn ymweld â Theatr y Werin ar ddydd
Gwener Tachwedd 7fed i weld perfformiad o sioe Llyfr Mawr y Plant.
Roedd y plant wedi mwynhau'r sioe gan Gwmni Theatr Bara Caws yn
fawr iawn.
Ward Angharad
Aeth dosbarth y Babanod ar ymweliad a Ward Angharad, Ysbyty Bronglais
ar ddydd Llun Tachwedd 10fed. Cawsom groeso arbennig yno a chael
ein tywys o gwmpas y ward i weld yr amrywiol offer oedd yno a
chael tro ar ei defnyddio.
Yna aethom i fyny i Ward Owain Glynd?r i dynnu llun gyda'r staff
yno oherwydd ein bod ni wedi rhoi arian y Cwrdd Diolchgarwch iddynt
ar gyfer prynu offer i'r ward.
Plant Mewn Angen
Cafodd y plant gyfle i wisgo dillad ei hunain i'r ysgol ar ddydd
Iau Tachwedd 13eg a chyfrannu 1 yr un. Codwyd 34.32 gan yr
ysgol ar gyfer Plant Mewn Angen.
Uned 5
Bu criw o'r rhaglen deledu Uned 5 yn ffilmio plant Blwyddyn 5
a 6 ar ddydd Gwener Tachwedd 14eg. Roeddent yn rhoi cyfarchion
pen-blwydd i'r plant a oedd yn cael eu pen-blwydd yn ystod gwyliau'r
Nadolig. Gan fod Mared Jones Cefngwrthafan yn dathlu ar ddiwedd
y flwyddyn bu'r criw yn rhoi cyfarchion iddi.
Roedd y cwbl yn gyfrinach ac mi gafodd Mared dipyn o sioc! Bydd
y rhaglen yn cael ei ddarlledu yn ystod wythnos y Nadolig- cofiwch
wylio!
Clwb 100
Dyma enwau lwcus a enillodd Clwb 100 a dynnwyd yn ddiweddar:
Mis Medi:
1. Joan Evans
2. Anwen Edkins Glasfryn
3. Mari pickering
Mis Hydref:
1. Meinir Evans
2. Jane Welch, Pen- Castell
3. Osian a Lilian Evans
Cyngerdd Nadolig
Bydd y Gyngerdd Nadolig yn cael ei chynnal
ar Nos Fawrth Rhagfyr 16eg am 7 o'r gloch yn y Capel. Croeso cynnes
i bawb.
Llais Aeron Tachwedd 2006
Diwrnod Cefnogi Ymchwil Cancr
Gwisgodd y disgyblion ddillad binc i gefnogi apel cancr y fron
a rhoddwyd cyfanswm casgliad y cwrdd diolchgarwch, sef £120
fel cyfraniad i'r gronfa.
Pencampwyr pel droed 5 bob ochr yr Urdd
Ar ol ennill cystadleuaeth y cylch aeth y tim i gystadlu yn rownd
derfynol y sir yn Llangrannog. Wedi ennill bob gem roedd hi'n
amser i chwarae yn erbyn tim Penllwyn. Roedd Penllwyn wedi ennill
y gystadleuaeth yn 2005 ond eleni, ar ol gem arbennig o gyffrous,
dyma Pennant yn ennill o un gol i ddim ac yn mynd ymlaen i gynrychioli
Ceredigion yn genedlaethol ym mis Mai 2007. Llongyfarchiadau mawr
i'r tim!
Urdd.
Diolch yn fawr i Heather Whalley, nyrs ysgol, am ddod i gynnal
dau sesiwn o'r Urdd i yn ddiweddar - un ar bwysigrwydd golchi
dwylo yn rheolaidd ac un arall ar fwyta'n iach.
Summer Holiday.
Cafodd rai o ddisgyblion blwyddyn 6 fynd i weld perfformaid o
Summer Holiday gan ddisgyblion ysgol Uwchradd Aberaeron. Roeddynt
wedi mwynhau yn fawr.
Gala nofio.
Llongyfarchiadau mawr i nofwyr yr ysgol am gystadlu mor dda yng
ngala yr Urdd yn Aberaeron yn ddiweddar. Mae Emlyn, Amy, Esyllt,
Mared a Chelsey nawr yn mynd ymlaen i gystadlu yn sirol. Da iawn
chi!!
Cynllun Gwreiddiau ac Adenydd.
Mae Mrs Lloyd a Mrs Jones wedi bod am 4 diwrnod i Sweden yn ddiweddar
i ymweld âg ysgolion amrywiol ac i barhau efo'r cysylltiadau
Ewropeaidd rydym eisioes wedi dechrau. Mae'r cysylltiadau yn ffordd
ardderchog o hybu dinasyddiaeth, perthynas a disddordeb mewn bobl
a thraddodiadau gwledydd Ewrop.
Apel bocsys esgidiau.
Unwaith eto eleni, fuodd y plant yn casglu er mwyn helpu eraill.
Casglwyd nifer o focsys o'r ysgol gan Mrs Elaine Bradshaw er mwyn
eu dosbarthu i blant llai ffodus yn nwyrain Ewrop.
Cwis Lyfrau.
Buodd tim mamiaith a tim ail iaith yn cymryd rhan yng nghwis lyfrau
Ceredigion eleni. Llongyfarchiadau a diolch i bawb am gystadlu
mor dda.
Apêl y pabi coch.
Diolch i ddisgyblion blwyddyn 5 a 6 am gasglu arian eleni eto
tuag at apêl y pabi coch.
Plant mewn Angen.
Diolch hefyd i'r disgyblion am gefnogi apêl Plant Mewn Angen.Roedd
y disgyblion wedi mwynhau gwisgo dillad eu hunain gan dalu 1 yr
un am gael gwneud.
Safle We.
Mae safle we yr ysgol yn gweithio unwaith eto - a'r cyfeiriad
yw www.pennant.ceredigion.sch.uk
Llais Aeron 15.11.04
Nofio
Llongyfarchiadau mawr i nofwyr yr ysgol ar gystadlu mor dda yng
ngala yr Urdd a'r cylch yn Aberaeron yn ddiweddar. Aeth Carys,
Esyllt, Emlyn ac Amy ymlaen i gyastadlu yn sirol a llongyfarchiadau
arbennig i Emlyn ar fynd ymlaen i rownd genedlaethol yr Urdd yn
Abertawe ym mis Ionawr. Pob lwc iddo.
Pel rwyd
Llongyfarchiadau mawr i dim pel rwyd yr ysgol ar gyrraedd rownd
derfynol yng nghystadleuaeth y cylch yn Aberaeron. Chwaraeodd
y tim yn arbennig o dda yn ystod y prynhawn cyn colli i Lanarth
o 2 gol i 1. Da iawn nhw.
Cwis Llyfrau
Buodd 2 dim mamiaith ac 1 tim ail iaith yn cymryd rhan yng nghwis
llyfrau Ceredigion eleni. Llongyfarchiadau a diolch i bawb am
gystadlu mor dda.
Apel y Pabi
Diolch i ddisgyblion yr ysgol am gasglu arian eleni eto tuag at
yr apel y pabi. Casglodd Mr Powell yr arian a diolchodd yn fawr
i'r plant am eu hymdrech.
Apel bocsys esgidiau
Unwaith eto eleni, fuodd y plant yn casglu er mwyn helpu eraill.
Casglwyd nifer o focsys o'r ysgol gan Mr John Bradshaw er mwyn
eu dosbarthu i blant llai ffodus yn nwyrain Ewrop.
Llais Aeron 15.10.04
Cwrdd Diolchgarwch
Cynhaliwyd y cwrdd yn yr eglwys eleni a braf oedd gweld gymaint
wedi dod i gefnogi'r achlysur. Buodd y plant yn canu, actio ac
yn dathlu a chasglwyd swm o £146 tuag at elusennau 'Beacon
of Hope' a Ward Cancr, Ysbyty Llanelli. Diolch i bawb.
Pel droed
Llongyfarchiadau mawr i dim pel droed 5 bob ochr yr ysgol ar chwarae
mor dda yng nghystadleuaeth yr Urdd yn Aberaeron yn ddiweddar.
Ysgol Iach
Mae'r ysgol wedi pasio'r flwyddyn cyntaf yn y gwaith o gael ei
hadnabod yn ysgol iach o dan awdurdod iechyd Ceredigion. Cyflwynwyd
y darian i'r ysgol yn y cyfarfod blynyddol i rieni a gynhaliwyd
yng nghanol mis Hydref.
Gala Nofio
Aeth sawl disgybl i Gala Nofio yr Urdd yn Aberaeron yn ddiweddar.
Llongyfarchiadau i bawb ar gystadlu ond llongyfarchiadau arbennig
i Amy Mawson, Esyllt Jones, Emlyn Lewis a Carys Lewis ar fynd
ymlaen i'r rownd nesaf.
Ymweliadau
Cafodd disgyblion dosbarth Mrs George a blwyddyn 3 amser hyfryd
ar drip maes i Aberystwyth ar ddechrau mis Hydref. Buodd y plant
yn atgyfnerthu gwaith y dosbarth ar 'Myfi fy Hun' wrth ymweld
a Morrisons, Aberystwyth i brofi ffrwythau amrywiol ac yna ymlaen
i ward y plant, Ysbyty Bronglais i fesur taldra, pwyso a chymryd
tymheredd. Hyfryd oedd gweld y disgyblion i gyd yn dychwelyd i'r
ysgol yn hollol iach !
Yn ogystal a'r uchod, fe fuodd y grwp yn ymweld a berllan Mrs
Williams, i synnu at ffrwythlondeb tir Bryneglur.
Llais Aeron Hydref 2006.
Disgyblion Newydd.
Croeso mawr i ddisgyblion newydd yr ysgol sef, Gareth Edkins,
Dafydd a Megan Evans a Chelsey Cody. Gobeithio y byddwch yn hapus
iawn yn ein plith.
Yr Urdd.
Diolch i Bryn o Gampau'r Ddraig am gynnal dwy noson o chwaraeon
amrywiol gyda'r disgyblion. Roedd pawb wedi mwynhau.
Ymweld a Frongoy.
Aeth yr ysgol gyfan yn ddiweddar i Fridfa Frongoy i weld y ceffylau
a'r cwpan arbennig a enillwyd eleni yn y Sioe Frenhinol sef Cwpan
Tywysog Cymru. Diolch yn fawr i Mr a Mrs Jones a Brynmor am y
croeso ac am y te moethus.
Carnifal yr Anifeiliaid.
Aeth dosbarth Mr Davies i'r Neuadd Fawr i weld perfformiad o Carnifal
yr Anifeiliaid sef darn o Gerddoriaeth gan Sain Saens.
Cwmni Theatr Arad Goch.
Aeth dosbarth Mrs Lloyd i ysgol Llannon i weld perfformiad o Hel
Meddyliau gan gwmni theatr Arad Goch.
Parti Penblwydd Mr Urdd.
Eleni mae'r cymeriad adnabyddus Mr Urdd yn 30 oed.Cafodd yr ysgol
gyfan gyfle i fynd i'w barti ym Mhafiliwn newydd Pontrhydfendigaid.
Cawson hwyl yng nghwmi Martin Geraint a chanu caneuon adnabyddus
i ni gyd.
Cwrdd Diolchgarwch.
Cafwyd ein cwrdd Diolchgarwch yr ysgol eleni yn Eglwys Llanbadarn
Trefeglwys, Pennant a braf gweld gymaint wedi dod i gefnogi'r
achlysur. Casglwyd £115 tuag at ymchwil cancr.
Pêl Droed.
Buodd y bechgyn yn chwarae pêl droed yng nghystadleuaeth
cylch yr Urdd i ysgolion dan 50 mewn nifer. Llongyfarchiadau mawr
iddynt ar ennill y gystadleuaeth. Ymlaen nawr i gystadleuaeth
y Sir. Pob lwc bois!
Llain.
Aeth criw o ddisgyblion dosbarth Mr Davies i Llain, Llanarth yn
ddiweddar i aros am ddwy noson gyda rhai o ddisgyblion o ysgolion
Llannon a Chilcennin. Roedd pawb wedi mwynhau mas draw,er yr holl
flinder!
Llais Aeron Gorffennaf 2006
Sioe Haf.
Cawsom sioe Haf yr ysgol sef Ffactor X yn Theatr Felinfach. Braf
oedd gweld cymaint o deuluoedd a ffrindiau'r ysgol yno yn cefnogi'r
disgyblion a da iawn i'r disgyblion am wneud mor dda. Roedd y
sioe yn llwyddiant ysgubol ac felly hoffai'r ysgol ddiolch i bawb
oedd ynghlwm ar achlysur ac yn enwedig i'r disgyblion am ymroi
yn gyfangwbl ac am wneud ymdrech arbennig.
Gwersyll yr Urdd ,Caerdydd.
Cafodd disgyblion blynyddoedd 5 a 6 y cyfle i brofi nifer o weithgareddau
tra'n aros yng ngwersyll yr Urdd Caerdydd yn ddiweddar, sef, Tim,
Emlyn, Sion, Esyllt, Ffion, Ceri, Teifion a Nathan gan gynnwys
teithiau o gwmpas Stadiwm y Mileniwm, Canolfan y Mileniwm, Pwll
mawr Blaenafon yn ogystal a threulio prynhawn yn Techniquest,
cael sgwrs efo Elin Jones, ag ymweld a'r senedd newydd. Roedd
pawb wedi mwynhau er yr holl flinder!
Cerbydau'r Heddlu.
Tra roedd disgyblion Bl. 5 a 6 yn mwynhau yng Nghaerdydd, aeth
gweddill y disgyblion i ymweld a cherbydau'r heddlu yn Aberaeron,
sef, car, fan a'r hofrenydd.
Mabolgampau'r Cylch.
Dyma canlyniadau disgyblion ysgol Pennant:-
400m bechgyn Bl. 3 - Ceri Eastment - 1af
800m bechgyn Bl.5 - Emlyn Lewis - 1af
Taflu pel merched Bl.3 - Shannon Nicholas - 1af
Naid Hir bechgyn Bl.6 - Joshua Jones - 2il
80 m merched blwyddyn 3-3ydd-Shannon Nicholas
100m Bechgyn Bl.6 - Joshua Jones - 3ydd
Taflu Pel merched Bl. 6 - Cathryn Checkett - 3ydd
Da iawn i'r disgyblion a gymerodd rhan yn y mabolgampau.
Cyngerdd
Aeth disgyblion Blynyddoedd 2-6 i weld cyngerdd gan gerddorfa
athrawon offerynnol peripatetic y Sir yn ysgol gynradd Aberaeron.
Trip ysgol.
Eleni aeth dosbarth Mr Davies i brofi gweithgareddau amrywiol
yng nghanolfan gweithgareddau Llain, Llanarth gan gynnwys canwio
a dringo muriau. Aeth dosbarth Mrs Lloyd i Fferm Ffantasi, Llanrhystud.
Daeth y rhieni efo'r disgyblion ac roedd pawb wedi cael diwrnod
yn llawn hwyl a sbri!
Llais Aeron Mehefin 2006.
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.
Llongyfarchiadau mawr i Manon Fychan am ddod yn drydydd yn genedlaethol
yn ei gwaith tecstiliau. Buodd y gwaith yn cael ei arddangos yn
Eisteddfodd Genedlaethol yr Urdd Sir Ddinbych.
Cwmni Theatr Arad Goch.
Aeth dosbarth Mrs Lloyd i weld perfformaid o'r Bobinogi gan gwmni
theatr Arad goch yng nghanolfan y celfyddydau yn Abersytwyth.
Roedd pawb wedi mwynhau yn fawr iawn.
Criced.
Roedd dosbarth Mr Davies wedi cymryd rhan yng nghystadleuaeth
criced cylch Aeron yn ddiweddar. Collodd y bechgyn yn y rownd
derfynol yn erbyn Ysgol Gynradd Aberaeron.
Chwaraeon Potes.
Bu'r ysgol gyfan yn Llanerchaeron ar gyfer chwaraeon potes yr
Urdd yn ddiweddar. Bu'r plant bach hefyd yn chwarae gemau amrywiol
efo swyddogion yr Urdd.
Disgyblion Newydd.
Croeso mawr i ddisgyblion newydd ysgol Pennant sef Sophie Evans,
Iwan a Llyr Evans a Ceri a Rhodri Eastment. Gobeithio y byddwch
yn hapus iawn yn ein plith.
Profiad gwaith.
Rydym wedi bod yn ffodus iawn i gael disgyblion ar brofiad gwaith
yn ddiweddar sef, Meira Lloyd o Ysgol Tregaron, Emily Mellars
o ysgol Aberaeron, Elen Lionel o ysgol Penweddig a Mark Ashford
sy'n gobeithio dilyn cwrs hyfforddiant i athrawon yng ngholeg
y Drindod. Diolch yn fawr iddynt am eu help.
Bobby Busters.
Da iawn i'r tim Bobby Busters sef, Ceri, Ffion, Cathryn a Josh
ar ddod yn ail dros y Sir mewn cystadleuaeth gan Heddlu Dyfed
Powys.
Llais Aeron Mai 2006
Cwis Lyfrau.
Da iawn i'r tim cwis lyfrau iaith gyntaf sef Ceri, Ffiôn,
Tim ag Emlyn am ddod yn drydydd yng nghwis lyfrau Ceredigion
2005-2006.
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.
Llongyfarchiadau mawr i Manon Fychan am ddod yn drydydd yn genedlaethol
yn ei gwaith tecstiliau. Bydd ei gwaith yn cael ei arddangos yn
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Ddinbych.
Llais Aeron Ebrill 2006.
Celf a Chrefft
Llongyfarchiadau mawr i Manon Fychan ar ddod yn gyntaf yng nghystadleuaeth
tecstiliau 2D yr Urdd. Mae'r darn nawr yn mynd ymlaen i gynrhychioli'r
Sir yn genedlaethol. Pob lwc Manon!
Eisteddfod y Sir.
Da iawn i Esyllt am wneud yn dda yn eisteddfod y Sir yn y Neuadd
Fawr yn ddiweddar. Roedd Esyllt yn cynrhychioli cylch Aeron yn
chwarae'r ffliwt.
Yr Urdd.
Daeth Nick Price, Whitehall i sôn am ei daith chwe wythnos
gyda chlwb Rotari Aberaeron i'r India yn yr Urdd yn ddiweddar.
Dangosodd luniau ag arteffactau amrywiol i'r disgyblion. Diolch
iddo hefyd am ei rodd o set criced i'r ysgol.
Cawsom brynhawn diddorol iawn efo Charles Grisedale ar fferm Cefngwyn Hall, Cross Inn yn ddiweddar pan aethom i weld y Cornicylliaid 'Lapwings'. Gwelsom y cwn hela a cafodd y disgyblion gyfle i roi llaeth i'r wyn bach. Gwelsom y deoryddion enfawr ble mae wyau'r hwyaid yn cael eu cadw a dangosodd Mr Grisedale tu mewn i wy efo flach lamp arbennig - roedd hi'n bosib gweld cyw bach yn dechrau datblygu. Diolch yn fawr i Mr Grisedale a'r teulu am y croeso mawr.
Pêlrwyd.
Llongyfarchiadau mawr i'r merched ar ennill cystadleuaeth pêl
rwyd y cylch i ysgolion dan 50 mewn nifer yn Felinfach yn ddiweddar.
Diolch yn fawr i ysgol Felinfach am y croeso ac am y te a gafodd
y staff yn ogystal a'r diod oer a bisgedi i'r disgyblion.
Trawsgwlad yr Urdd.
Llongyfarchiadau mawr i Emlyn Lewis ar ennill ras trawsgwlad bechgyn
blwyddyn 5 y Sir yn Llanerchaeron yn ddiweddar.
Ymweliad ag Eglwys Aberaeron a Capel Tabernacle.
Ar ddiwedd tymor aethom ynghyd ag ysgolion Llannon, Cilcennin
a Chross Inn i ymweld ag eglwys Aberaeron yng ngofal y Parch.
Andy John a hefyd Capel Tabernacle yng ngofal y Parch. Dilwyn
Jones. Rydym wedi bod yn astudio Cartrefi ag Adeiladau yn ystod
y tymor, felly roedd yr ymweliad yma yn rhan o waith addysg grefyddol
ar adeiladau crefyddol arbennig.
Llais Aeron Ysgol Pennant Mawrth 2006
Bwlch Nant yr Arian.
Aeth blynyddoedd 4, 5 a 6 i Fwlch Nant yr Arian fel rhan o weithgareddau
diwrnod dim ysmygu yn ddiweddar. Cawsom ddiwrnod bendigedig yn
dysgu am yr adar a'r mathau amrywiol o goed yn ogystal a dysgu
am beryglon ysmygu a'i effaith ar yr amgylchfyd.
Eisteddfod yr Ysgol.
Yn dilyn cinio o gawl a bara brith daeth disgyblion, rhieni, perthnasau
a'r pentref ynghyd i ddathlu dydd gwyl Dewi. Cawsom brynhawn arbennig.
Diolch i Mrs Anwylyd Evans am feirniadau ac i Mrs Lynne James
am gyfeilio. Dyma'r canlyniadau.
Eisteddfod cylch yr Urdd.
Da iawn i'r holl ddisgyblion am gymryd rhan yn eisteddfod cylch
yr Urdd. Llongyfarchiadau mawr i Esyllt Jones am ddod yn gyntaf
yn adran y chwythbrennau am chwarae'r ffliwt. Pob lwc nawr yn
eisteddfod y Sir yn y neuadd fawr yn Aberystwyth.
Llais Aeron Ysgol Pennant Chwefror 2006
Pêl Rwyd.
Roedd merched hynaf yr ysgol wedi cymryd rhan yng nhystadleuaeth
pêl rhwyd yr Urdd yn Llangrannog yn ddiweddar.
Urdd.
Diolch i Alwyn , Trefnydd rygbi'r Sir. A ddaeth i ymarfer sgiliau
rygbi gyda'r disgyblion yn ystod yr Urdd yn ddiweddar. Roedd y
disgyblion wedi mwynhau yn fawr a wedi dysgu sgiliau newydd ar
yr un pryd.
Diolch hefyd i Mrs Anwylyd Evans a ddaeth i roi sesiwn o ddawnsio
gwerin i'r disgyblion yn ddiweddar.
Trawsgwlad.
Llongyfarchiadau mawr i Emlyn Lewis ar ddod yn gyntaf yn nghystadleuaeth
trawsgwlad y cylch yn ddiweddar. Llongyfarchiadau hefyd i Ryan
Nicholas, Esyllt Jones a Tim Evans a ddaeth yn y deuddeg cyntaf.
Da iawn i Emlyn hefyd am wneud yn arbennig o dda yn ngala nofio
terfynol genedlaethol yr Urdd yn y pwll nofio Olympaidd yn Abertawe.
P.C. Jackie.
Braf oedd croesawi P.C. Jackie i drafod diogelwch yn y cartref
gyda plant yr ysgol.
Penblwydd.
Penblwydd hapus iawn i Miss Monica a oedd yn dathlu penblwydd
arbennig ar ddechrau'r mis. Gobeithio i chi fwynhau'r parti!
Llais Aeron Ionawr 2006
Blwyddyn Newydd Dda i Bawb!
Nofio
Da iawn i Emlyn Lewis ag Amy Mawson ar lwyddo yng nghystadleuaeth
gala nofio rhanbarth Ceredigion yn ddiweddar.
Dyma'r canlyniadau:-
Cymysg unigol 4x25m i fechgyn Bl 5 a 6 --1af
Emlyn Lewis.
Cefn 25m i ferched Bl 3 a 4 - 3ydd Amy Mawson
Pili Pala 25m i ferched Bl 3 a 4-3ydd Amy Mawson
Pob lwc i Emlyn sy'n mynd ymlaen nawr i'r gala nofio cenedlaethol ym mhwll nofio Abertawe mis Ionawr.
Merch Cae Bach
Aeth dosbarth Mr Davies i weld perfformiad 'Merch Cae Bach' gan
Gwmni Theatr Arad Goch yn Amgueddfa Ceredigion yn ddiweddar. Cafodd
y disgyblion amser ardderchog wrth ddysgu am 'ifaciwis' yn ardal
Ceredigion yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Caerleon.
Cafodd dosbarth Mr Davies drip yng nghwmni ysgolion Llannon, Cilcennin
a Chross Inn i'r Amgueddfa Rhufeinig yng Nghaerleon, ger Casnewydd
ar ddiwedd Tachwedd. Roedd pawb wedi mwynhau gweld yr amgueddfa
Rhufeinig, ag adfeilion yr amffitheatr a'r baddonau er yr holl
oerfel!
Diolch i Mr Sweeney ysgol Cilcennin am drefnu'r trip ac i'r ddwy
Mrs Lloyd am edrych ar ol y disgyblion!!
Pantomeim.
Cyn y Nadolig cafodd yr ysgol gyfan brynhawn o hwyl a sbri yn
y panto yn Theatr y Werin yn gweld perfformiad o'r 'Hela'r Twrch
Trwyth' sef chwedl Culhwch ag Olwen o'r Mabinogion.
Cwis Lyfrau.
Llongyfarchiadau i'r tim iaith gyntaf sef Tim Evans, Ceri Evans,
Ffion Walker ag Emlyn Lewis, ag i'r tim ail iaith sef Nathan Evans,
Joshua Jones, Cathryn Checkets a Zeus Huxtable ar fynd ymlaen
i ail rownd y cwis lyfrau. Llongyfarchiadau arbennig i'r tim iaith
cyntaf ar dderbyn marciau llawn!
Sinema.
Aeth yr ysgol gyfan i'r sinema ar ddiwedd y tymor i weld 'Madagascar'.
Roedd pawb wedi mwynhau mas draw!
Cerddoriaeth.
Cafodd yr ysgol gyfan brofiad o weld Côr Ieuenctid Ceredigion,
Côr Bechgyn a Cherddorfa Ceredigion yn perfformio yn y Neuadd
Fawr ar ddiwedd tymor. Cafwyd ragflas o gyngerdd fawr y noson
a dysgu am amrywiol offerynnau'r gerddorfa yn ogystal a lleisiau
gwahanol y corau.
Canu Carolau.
Diolch i Llais Pennant Voice am drefnu noson o ganu carolau ym
mhlasdy Monachdy, Pennant. Crewyd naws hyfryd gan ganu'r carolau
yng ngolau'r goeden. Diolch yn fawr i Mr a Mrs Simmons-Jones am
y croeso ac am yr anrhegion o siocled ac oren a gafodd y disgyblion.
Parti Nadolig.
Daeth Santa eleni eto i roi anrhegion i'r plant yn ystod ein parti
Nadolig.
Ond, yn anffodus roedd Santa wedi cael dipyn o drafferth wrth
gyrraedd Pennant eleni, ond wrth lwc daeth Lodwick Lloyd, Adsolwen
i'w achub a cyrraeddodd Santa o'r diwedd mewn tractor fel y gwelwch
yn y llun!
Mabolgampau'r ysgol.
Rhannwyd ein mabolgampau eleni gydag ysgolion Cross Inn, Llannon
a Chilcennin. Aethom i gaeau hoci ysgol uwchradd Aberaeron.
Llongyfarchiadau i dim buddugol Ysgol Pennant sef Owain Glyndwr
gyda Ceri Evans yn Gapten a Cathryn Checketts yn Is-gapten. Roedd
y marciau yn agos iawn.
Pencampwyr dosbarth Mr Davies - Josh Jones, Ryan Nicholas a Esyllt
Jones.
Pencampwyr Dosbarth Mrs Lloyd - Manon Fychan, Bradley Palmer a
Caleb Price.
Diwrnod Hwyl yr Urdd.
Aeth dosbarth Mr Davies i diwrnod Hwyl yr Urdd yn Aberaeron.
Ffarwel.
Pob lwc i Ceri Evans, Nathan Evans, Ffion Walker, Joshua Jones,
Zeus Huxtable, Cathryn Checketts a Teifion Lewis sy'n mynd i ysgol
Uwchradd Aberaeron eleni.
Llais Aeron 15.03.04
Eisteddfod yr Ysgol
Cynhaliwyd Eisteddfod yr ysgol ar ddydd Gwyl Dewi gyda phlant
yr ysgol wedi gwisgo yn eu gwisgoedd Cymreig.Ar ol y cawl hyfryd
i ginio dyma'r cystadlu yn dechrau.Bu'r plant wrthi'n frwd drwy'r
prynahawn yn y gobaith o ennill pwyntiau a chlod i'w timau.Erbyn
y diwedd gyda chystadleuaeth y corau i fynd,roedd hi'n agos iawn
ond Owain Glyndwr enillodd y dydd. Diolch o galon i Parchedig
Robert Townsend am feirniadu eleni a llongyfarchiadau mawr i'r
plant i gyd a diolch i rieni yr ysgol am baratoi y lluniaeth ac
i rieni a ffrindiau'r ygol am gefnogi'r achlysur.
Eisteddfod Gylch
Llongyfarchiadau i ddisgyblion yr ysgol ar gystadlu mor dda yn
Eisteddfod y cylch yn ddiweddar.Roeddech i gyd yn ardderchog iawn
gyda chlod arbennig i Emlyn Lewis ar ddod yn drydydd yn adrodd
i blant dan 10 oed, i'r parti cyd adrodd ar ddod yn ail ac i ddisgyblion
yr ymgom ar ddod yn drydydd. Diolch o galon i Mrs George am ei
gwaith aruthrol yn hyfforddi'r plant yn ystod yr adeg.
Diwrnod Llyfr y Byd
Buodd yr ysgol gyfan yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
i ddathlu 'Diwrnod LLyfr y Byd'. Cafodd y disgyblion amser arbennig
wrth fynd o gwmpas yr adeilad ac yna'n gweithio'n galed yn yr
ystafell ddosbarth gyda Rhodri a Cathryn. Diolch i'r ddau am y
croeso a'r gweithgareddau yn ystod y dydd.
Ymweliad
Aeth yr ysgol gyfan i Ganolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth yn
ddiweddar i gymryd rhan mewn amryw weithgaredd. Cafwyd hwyl a
chyfleon addysgiadol arbennig wrth i'r plant greu darn o farddoniaeth
yng nghwmni'r bardd enwog Iwan Llwyd. Cafwyd y cyfle hefyd i beintio
sgrin, i gymryd rhan mewn gweithdy cerdd ac i geisio ar grochenwaith.
Roedd y disgyblion wedi mwynhau y dydd a'u profiadau yn fawr.
Diolch yn fawr i bawb yn y Ganolfan.
Cynllun Ysgolion Iach
Mae'r ysgol wedi ymuno a'r cynllun ac fel rhan o'r gwaith mae'r
ysgol wedi ychwanegu at y siop ffrwythau drwy dreialu peiriant
dwr gogyfer y disgyblion. Mae'r peiriant yn boblogaidd iawn !
Hefyd mae rhieni'r ysgol wedi cael sesiwn gyda'r heddwraig fydd
yn gweithio gyda staff yr ysgol i ddarparu addysg gyffuriau ac
ymddygiad i'r plant. Mae'r gwaith yma yn gyfraniad ardderchog
i waith yr ysgol ar addysg bersonol a chymdeithasol.
Clwb Cant
Mis Chwefror
Cyntaf- Mrs J Evans, Penbompren
Ail- Emlyn Lewis, Llanbadarn
Trydydd- Sid a Yvonne Worland
Mis Mawrth
Cyntaf- Teulu Frongoy
Ail- Jones, Awelfa
Trydydd- Carys Lewis, Llanbadarn
Llais Aeron 15.02.04
Trawsgwlad y Cylch
Llongyfarchiadau i ddisgyblion dosbarth Mr Davies ar berfformio
mor dda yng nghystadleuaeth y cylch yn Aberaeron yn ddiweddar.
Llongyfarchiadau ychwanegol i Jenni Moffit, Tim Evans, Esyllt
Jones ac i Emlyn Lewis sydd yn mynd ymlaen i gystadleuaeth y sir.
Llongyfarchiadau arbennig i Emlyn am ennill y ras i fechgyn blwyddyn
3. Da iawn chi gyd.
Gymnasteg
Llongyfarchiadau i Joshua Jones ar fynd ymlaen i rownd nesaf gystadleuaeth
gymnasteg yn Aberteifi.
Cystadleuaeth Mathemateg
Diolch yn fawr iawn i Jenni Moffit, Zeus Huxtable, Steffan Walker
a Dafydd Jones am gymryd rhan yng ngystadleuaeth 'Gem 24' y sir
yn ddiweddar.
Canolfan y Celfyddydau
Cafodd dosbarth Mr Davies, o dan ofalaeth Mrs George a Mrs Juliet
Jones, amser arbennig yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.
Buodd y disgyblion yn edrych ar fodelau yn yr oriel ac yna'n gweitho'n
ymarferol gydag arlunwraig i greu llyfryn.
Fideo
Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu fideo o Sioe Nadolig yr ysgol,
gysylltwch a Mrs Monica Lloyd ar rif yr ysgol sef 01545 570 661.
Diolch yn fawr i Mr Emyr Jones, Llanrhysud am gynhyrchu y fideo
sydd ar werth am £6:00.
Clwb Cant
Mae canlyniad mis Chwefror fel y ganlyn-
Chwefror
Cyntaf- Mrs J Evans (Penbompren)
Ail- Emlyn Lewis (Llanbadarn)
Trydydd- Sid a Yvonne Worland
Llais Aeron 15.01.04
Panto Nadolig
Cynhaliwyd sioe Nadolig yr ysgol yn Theatr Felinfach ar nos Iau,
Rhagfyr 18fed. Roedd yn noson arbennig gyda phawb yn mwynhau yr
hwyl a'r sbri. Hoffai staff yr ysgol, ddioch o galon i bawb am
eu help, cymorth a chyfraniadau ac i staff y theatr am gynorthwyo
ar y nos. Diolch hefyd i Sion Corn am ymweld a'r plant ar ddiwedd
y sioe. Roedd y plant yn llawn heiddi'r anrhegion am weithio mor
galed i greu panto ardderchog. Codwyd dros £600 ar y noson
i goffrau'r ysgol ac felly diolch unwaith eto am gefnogi ymdrechion
yr ysgol.
Fideo
Os ydych am brynu fideo o'r Sioe Nadolig yr ysgol, gysylltwch
a Mrs Monica Lloyd ar rif yr ysgol sef 01545 570 661. Diolch yn
fawr i Mr Emyr Jones, Llanrhysud am gynhyrchu y fideo sydd ar
werth am £6:00.
Parti Nadolig
Cafodd y disgyblion barti Nadolig hyfryd yn yr ysgol ar ddiwrnod
olaf tymor.
Disgybl Newydd
Croeso cynnes iawn i Bradley Scott Jenkins Palmer wrth iddo ddechrau
ar ei yrfa yn yr ysgol.
Cwis Lyfrau
Llongyfarchiadau i Dafydd Jones, Steffan Walker, Elin Evans a
Ben Evans, sef tim cwis lyfrau mamiaeth yr ysgol, ar fynd ymlaen
i'r ail rownd yng nghystadleuaeth y sir.
Clwb Cant
Hoffai Ffrindiau'r Ysgol, ddiolch i bawb sydd wedi ymuno a chefnogi
eleni. Mae canlyniadau misoedd Rhagfyr ac Ionawr fel y ganlyn
-
Rhagfyr
Cyntaf- Lyn Griffiths, Rhiwgoch
Ail-Mary Morgan, Garthewin
Trydydd- Eira Evans, Glanbran
Pedwerydd-Ben Evans, Wernddu
Pumed-Mr a Mrs George, Garth Fawr
Ionawr
Cyntaf-Fiona Palmer, Talbot House
Ail-Gloria Davies, Aberaeron
Trydydd-Karine Evans, Pennant
Darlledu Rhaglen Fflic
Cafodd rhaglen a ffilmwyd cyn gwyliau'r haf ei ddarlledu ar brynhawn
dydd Mercher, Rhagfyr 17eg. Llongyfarchiadau unwaith eto i'r plant
a gymerodd rhan.
Gweithgareddau'r Urdd
Buodd y plant yn gwneud eitem mewn cyngerdd yn Theatr Felinfach
i godi arian tuag at gronfa'r Urdd. Llongyfarchiadau i bawb ar
berfformio mor dda.
Cafodd y disgyblion amser hwylus yn Jambori yr Urdd y Felinfach
cyn y Nadolig
Safle We yr ysgol
Yn anffodus, oherwydd newidiadau technegol gan y sir, nid yw safle
we yr ysgol wedi bod yn gweithio'n iawn ers misoedd. Gobeithir
yn fawr fod y problemau wedi'u datrys ac fe fydd y safle ar gael
i bawb o hyn ymlaen.
Llais Aeron 15.09.03
Tymor newydd a disgyblion newydd
Croeso cynnes iawn i'r plant wrth iddynt ddychwelyd nol i'r ysgol
ar ol gwyliau'r Haf. Mae tymor y Nadolig yn mynd i fod yn amser
brysur a chyffrous i bawb. Croeso arbennig i'r disgyblion newydd
sydd wedi dechrau'r ysgol am y tro cyntaf sef Caleb Lewis, Annwen
Edkins Evans a James Buentempo.
Cwrdd Diolchgarwch
Cynhelir y cwrdd yn y Capel eleni ar ddydd Iau, Hydref
Mae yna groeso i bawb i ymuno yn y dathlu.
Panto Nadolig
Bydd yr ysgol yn cynnal Panto eto eleni yn Theatr Felinfach. Mwy
o fanylion i ddilyn yn y dyfodol agos.
Llais Aeron 15.07.03
Gweithdy Iwan Llwyd
Cafodd disgyblion dosbarth Mr Davies amser hyfryd yng nghwmni
Mr Iwan Llwyd yn Aberystwyth yn ddiweddar. Buodd y plant yn creu
darn o farddoniaeth o dan arweiniad y bardd.
Cystadleuaeth Criced
Llongyfarchiadau i dim criced yr ysgol a gymerodd rhan yng nghystadleuaeth
y cylch yn Aberaeron.
Gweithdy Cwmni XL
Adeiladwyd cartrefi eirth a goleudai fel rhan o ddiwrnod gwyddoniaeth
a thechnoleg yn ddiweddar. Diolch i Mr Eifion Collins o gwmni
XL am arwain y gweithgareddau.
Ffilmio
Mawr oedd y cyffro ar ddechrau Mis Gorffennaf wrth i Gwmni Fflic
gyrraedd yr ysgol i ffilmio episod o raglen '13 Munud a 30 Eiliad
o Enwogrwydd' gogyfer S4C. Buodd y disgyblion - Emlyn Lewis, Ben
Evans, Elin Evans, Dafydd Jones, Steffan Walker a Caio Jones yn
'go-cartio', coginio, ffermio a pherfformio mewn Noson Lawen.
Diolch yn fawr i Gwmni Fflic am fod yn broffesiynol a chyfeillgar
iawn yn ystod eu hamser gyda'r plant. Cafodd y disgyblion amser
ardderchog a phrofiad arbennig.
Ymweld a Llanerchaeron
Er mwyn atgyfnerthu gwaith hanes y tymor, aeth dosbarth y Babanod
am fore i Lanerchaeron i gael blas ar fywyd ym mhlasdy ac i ddysgu
am deganau Fictoraidd. Cafodd y disgyblion, gyfle arbennig i wneud
doli peg o dan arweiniad y 'morwynion'.
Mabolgampau'r Ysgol
Cynhaliwyd mabolgampau'r ysgol yng nghae hoci, Ysgol Uwchradd
Aberaeron. Diolch i'i Ysgol Uwchradd ac i bawb am gefnogi unwaith
eto a diolch arbennig i'r plant am gystadlu mor dda. Cafwyd diwrnod
o gystadlu braf a llongyfarchiadau i'r enillwyr are eu llwyddiant.
Rhanodd Esyllt Jones ac Emlyn Lewis y darian am fabolgampwr orau
y mabolgampau o ddsbarth y Babanod a rhanodd Joshua Jones a Gwenllian
Jones y darian am fabolgampwr orau o ddosbarth Mr Davies. Y tim
buddugol eleni oedd Llewelyn a'r capteiniaid oedd Dafydd Jones
a Gwenllian Jones. Llongyfarchiadau i chi gyd.
Diwrnod Hwyl yr Urdd
Buodd dosbarth Mr Davies yn cymryd rhan yn Niwrnod Hwyl yr Urdd
yn Aberystwyth yn ddiweddar. Braf oedd gweld y plant yn ceisio
eu gorau ac yn mwynhau yr achlysur.
Trip yr Ysgol
Teithiodd staff, rhieni a phlant yr ysgol i Fferm Folly ar ddiwrnod
braf o Orffennaf. Cafwyd amser hyfryd ar y dydd ac roedd pawb
wedi mwynhau yn fawr iawn. Diolch yn fawr i Miss Monica am drefnu'r
daith.
Ffarwelio a Chroesawi
Rydym wedi ffarwelio a Miss Betsan Lloyd a chroesawi Mrs George
yn ol o'i chyfnod mamolaeth. Diolch yn fawr iawn i Betsan am ei
gwasanaeth a chroeso cynnes i Mrs George.
Disgyblion yn mynd i'r Uwchradd
Ffarwel a phob lwc i Gwenllian Jones, Caio Jones, Leifr Shepherd
a Vicky Morgan wrth iddynt adael Ysgol Pennant a dechrau yn Ysgol
Uwchradd Aberaeron.
Llais Aeron 15.04.03
Mabolgampau'r Cylch
Llongyfarchiadau mawr i ddisgyblion yr ysgol am ymdrechu'n dda
ym mabolgampau'r cylch yn ddiweddar. Yn anffodus, oherwydd y tywydd,
fe ohirwyd gystadlu'r prynhawn.
Cyflwno anrheg
Cyflwynodd Ffrindiau'r Ysgol gadair fechan i Mrs George wedi'i
hysgrythu ag enw Siwan Aur. Braf oedd gweld y ddwy ohonynt yn
edrych mor hapus a chysurus wrth dderbyn y rhodd. Diolchodd Mrs
George bawb am yr anrheg hyfryd.
Pel rwyd a Rownderi y Cylch
Da iawn y merched am eu perfformiad arbennig yn y gystadleuaethau
uchod. Roeddent wedi mwynhau y profiad yn fawr.
Trip Addysgiadol
Ar ddiwrnod hyfryd o Haf aeth yr ysgol gyfan ar daith i Aberystwyth
i ymweld ag Amgueddfa Ceredigion, y Castell a'r Llyfrgell Genedlaethol.
Adeiladau, gweithgareddau a phrofiadau ardderchog ar stepen ddrws.
Mae'n haws i anghofio am y pethau sydd ar gynnig yn ein hardal
ond cafwyd amser arbennig wrth ddarganfod am hanes adeiladau unnos
a datblygiad ysgrifen.
Hen Ddisgyblion
Peidiwch ag anghofio am Safle We yr ysgol sef
www.ysgolccc.org.uk/pennant
Rydym ar hyn o bryd yn adeiladu tudalen i arddangos lluniau hen
ddisgyblion yr ysgol. Os hoffech fod yn rhan o'r tudalen neu yn
adnabod rhywun fuodd yn yr ysgol, gysylltwch a ni os gwelwch yn
dda. Rydym yn edrych am bobl sydd yn neu dros 25 oed.
Llais Aeron 15.04.03
Pel droed y Cylch
Cymerodd tim pel droed yr ysgol ran yng nghystadleuaeth 6 bob
ochr yng Nghei Newydd yn ddiweddar. Llongyfarchiadau i bawb am
yr ymdrech a'r ymrwymiad.
Peryglon Trydan
Buodd cwmni Western Power yn yr ysgol yn siarad a'r disgyblion
am beryglon trydan yn y gymuned.Roedd hi'n fore fuddiol ac yn
addysgiadol iawn.
Theatr
Roedd disgyblion dosbarth Mr Davies wedi mwynhau perfformiad Cwmni
Aida o'r Eidal o 'The Happy Prince' yn Theatr Felinfach ar ddechrau
mis Ebrill.
Ffilm
Cafodd blwyddyn 5 a 6 y cyfle i wylio ffilm o wlad Chad, Affrica
yn Aberystwyth. Teitl y ffilm oedd Abouna a dysgodd y plant am
fywyd bobl a thlodi'r wlad.
Noson Bingo
Diolch yn fawr iawn i Ffrindiau'r Ysgol am drefnu noson Bingo
yng Ngwesty'r Plu, Aberaeron yn ddiweddar. Codwyd swm sylweddol
tuag at gronfa'r ysgol.Diolch i bawb wnaeth gyfrannu a chefnogi'r
achlysur a diolch arbennig i Gwyn a Valmai am gynnal y noson mor
dda.
Cystadleuaeth Wyau Pasg
Braf oedd gweld y plant wedi addurno wyau Pasg gogyfer cystadleuaeth
yr ysgol. Diolch yn fawr iawn i Mr David Williams, Llain am feirniadu
a
llongyfarchiadau i'r enillwyr ac i bawb am
gymryd rhan.
Llais Aeron 15.03.03
Eisteddfod yr Ysgol
Cynhaliwyd Eisteddfod Dydd Gwyl Dewi yr ysgol ar ddiwedd mis Chwefror.
Cafwyd amser hyfryd yng nghwmni rhieni a ffrindiau'r ysgol a braf
oedd gweld y plant yn perfformio mor dda. Rydym yn ddiolchgar
iawn i Mr Mostyn Leyshon am feirniadu yn ystod y dydd ac hefyd
i'r plant am gystadlu 'n frwd ond yn deg drwy'r adeg. Llongyfarchiadau
i dim Arthur ar ennill y dydd ac i Tim Evans a Ceri Evans wrth
iddynt cael eu henwi yn brif lenorion yr Eisteddfod. Diolch i
bawb am gefnogi'r achlysur.
Eisteddfod yr Urdd
Llongyfarchiadau i'r disgyblion ar gystadlu yn ardderchog yn Eisteddfod
y Cylch yn y theatr yn Felinfach. Diolch i bawb am eu cymorth
ar y dydd.
Croeso
Mae Mrs George wedi dechrau ei chyfnod mamolaeth ac felly rydym
yn croesawi Miss Betsan Lloyd i'r ysgol wrth iddi ymgymryd a'r
swydd o athrawes Babanod dros dro.
Cystadleuaeth 'Micromouse'
Buodd disgyblion blwyddyn 5 a 6, o dan arweiniad Mr Sion Walker,
yn cystadlu ym mhencampwriaeth 'Micromouse' ym Mhrifysgol Abertawe
yn ddiweddar. Enillodd yr ysgol y wobr gyntaf am y ras 'Llygoden
Electronig' ac felly llongyfarchiadau i'r plant are eu llwyddiant
ardderchog a diolch i Mr Walker am ei gymorth.
Llais Aeron 15.02.03
Darlith Wyddoniaeth
Buodd Mr Eifion Colins o gwmni XL Cymru yn yr ysgol yn ddiweddar
yn arwain arddangosfeydd a gweithdai ar y thema Sain a Golau.
Cafwyd amser bleserus ac addysgiadol yng nghwmni Mr Colins ac
roedd y plant yn awyddus i gymryd rhan ac arbrofi gyda'r deunydd
a chyfarpar. Hoffai'r ysgol ddiolch i'r cwmni ac i Mr Colins am
drefnu'r weithgaredd ac edrychwn ymlaen at yr un nesaf yn nhymor
yr Haf.
Ffair Lyfrau Scholastic
Diolch i rieni a phlant yr ysgol am gefnogi y ffair lyfrau a gynhaliwyd
yn yr ysgol ar ddechrau Chwefror. Roedd yr ymateb yn ardderchog
yn ol yr arfer.
Trawsgwlad y Cylch a'r Urdd
Llongyfarchiadau i ddisgyblion dosbarth Mr Davies ar gystadlu
mor dda yng nghystadleuaeth trawsgwlad y cylch yn Aberaeron ar
ddiwedd mis Ionawr.Llongyfarchiadau arbennig i Carys Lewis, Ceri
Evans a Joshua Jones ar lwyddo i fynd ymlaen i gystadleuaeth yr
Urdd sy'n cynnwys enillwyr o bob cylch yn y sir.
Ysgol Feithrin Pennant
Buodd plant a staff yr ysgol gynradd yn ymweld a'r ysgol feithrin
yn ystod y bore i ffarwelio a'r staff ac i ddymuno'n dda i Mrs
Hughes, Joan, Marian a Pam yn y dyfodol. Diolch yn fawr iawn i
hwy am eu gwaith arbennig yn yr uned ac am eu gwasanaeth wrth
addysgu plant yr ardal.
Mrs George
Pob lwc i Mrs Joyce George wrth iddi adael yr ysgol am ei chyfnod
mamolaeth.Mae bendithion a dymuniadau gorau y staff,llywodraethwyr,
rhieni a'r plant yn mynd i Joyce a Phil yn ystod yr amser cyffrous
hwn.
Croeso
Croeso cynnes iawn i Taya Huxtable sydd newydd ddechrau yn yr
ysgol.
Llais Aeron 15.01.03
Jambori yr Urdd
Cafwyd amser hyfryd yn Jambori yr Urdd yn Teatr Felinfach ar ddiwedd
mis Tachwedd.Braf oedd gweld y plant a'r staff yn mwynhau yr achlysur
yn fawr.Diolch i Anwen Eleri am drefnu ac i Martyn Geraint am
ddiddanu'r plant yn llwyr.
Ymweliad Arad Goch
Diolch i Mari am ymweld a'r ysgol yn sgil cynllun Arad Goch sy'n
cefnogi gwaith athrawon bro y sir,i gymryd sesiwn o ddrama a symud
creadigol gyda phlant dosbarth Mr Davies.
Cwis
Llongyfarchiadau i Caio,Dafydd,Steffan a Ben ar wneud mor dda
yn y cwis iaith gyda Mrs Nest Thomas yn ddiweddar.Roedd y plant
wedi mwynhau y profiad yn fawr iawn.
Panto Cwmni Mega
Buodd y plant yn gwylio y panto,'Guto Nyth Bran-Dyn a'r Dan' yn
Theatr y Werin ar ddechrau mis Rhagfyr.
Ymgais 'Bocsys Esgidiau' y Samariaid
Roedd y plant yn frysur iawn cyn Nadolig yn cefnogi'r ymgais sy'n
helpu plant mewn angen yn Ewrop i fwynhau yr wyl.Casglwyd yr anrhegion
eleni er mwyn plant yn wlad Belarws.
Panto Nadolig yr ysgol
Cynhaliwyd sioe Nadolig yr ysgol-'Joio Gyda'r Jini'-yn Theatr
Felinfach ar brynhawn a nos Iau,Rhagfyr 19eg.Roedd y panto yn
arbennig o lwyddiannus gyda chlod aruthrol i berfformiadau'r digyblion
i gyd.Hoffai staff a llywodraethwyr yr ysgol, ddiolch o galon
i'r plant am eu hymdrech a'u hymroddiad ac hefyd i rieni a ffrindiau'r
ysgol am eu cymorth a chefnogaeth.Mae lluniau a hanes y pant ar
wefan yr ysgol-www.ysgolccc.org.uk/pennant.
Raffl Fawr y Nadolig
Trefnodd Mr a Mrs Roland Pickering Raffl Fawr yn ystod tymor y
Nadolig a thynnwyd y raffl ar noson y Panto yn Felinfach.Mrs Mari
Pickering yw drysoryddes sefydliad Ffrindiau Ysgol Pennant ac
mae staff a rhieni'r ysgol yn ddiolchgar iawn i Mari am ei gwaith
yn y swydd ond mae yna ddiolch arbennig yn deilwng i Mari a Roland
am eu brwdfrydedd a'u hegni wrth drefnu'r Raffl Fawr.Hoffai Mari,
Roland a phawb o'r ysgol,ddiolch yn fawr i'r bobl canlynol am
gyfrannu gwobrau mor hael-
Gwobrau
1af-£100:00-Ffrind i'r ysgol
2il-£50:00-Teulu Frongoy
3ydd-£25:00-Ann a John,Dolwerdd
4ydd-£25:00-Mansel a Glenys Edwards
5ed-£25:00-Isaac,Ty Coch
6ed-Gwyliau penwythnos-Mr a Mrs Evans,Cwmwythig
Enillwyr-
1af-Nigel Hughes,Llanrhystud
2il-Huw Hopkins,Llangyrwyfon
3ydd-R Davies,Llanon
4ydd-Glyn Evans,Dihewyd
5ed-Dion Phillips,Talsarn
6ed-Martin Williams,Felinfach
Enillodd Ben a Tim Evans y wobr o £15:00
am werthu dros 200 o lyfrau a chylwynwyd wobr ychwanegol i Steffan
a Ffion Walker am eu hymdrech arbennig nhw wrth werthu'r llyfrau
hfyd.Llongyfarchiadau i'r pedwar !
Cododd y Raffl Fawr y swm o £1,844:00 tuag at goffrau'r
ysgol.
Diolch unwaith eto i mari a Roland am bopeth.
Ymweliad Sion Corn a'r ysgol
Mawr oedd y cyffro ar ddydd Gwener olaf y tymor wrth i Sion Corn
gyrraedd yr ysgol gydag anrheg fechan i bob plentyn.Rydym yn ddiolchgar
iawn i Sion Corn am gofio am ddisgyblion Pennant eleni eto.
Llais Aeron 15.11.02Nofio
Llongyfarchiadau i ddisgyblion yr ysgol ar gystadlu mor dda yng
ngala nofio'r cylch a'r Urdd yn ddiweddar.Pob lwc i Elin,Ceri,Cathryn
a Ffion wrth iddynt fynd ymlaen i gystadlu yn y rhanbarth.
Pontio
Mae'r ysgol ar hyn o bryd yn cymryd rhan mewn cynllun pontio gyda
Mr Fry,pennaeth adran Ieithoedd Modern yn Ysgol Uwchradd Aberaeron.Mae'r
cynllun yn cynnwys Mr Fry yn dod i'r ysgol i arwain y plant wrth
greu cysylltiadau ag ysgol yng Nghanada.
Ymweliad y deintydd
Buodd Lynwen yn ymweld a'r ysgol dros gyfnod o dair wythnos yn
siarad a thrafod gwath a phwrpas y dannedd ac roedd Lynwen hefyd
yn son am bwysigrwydd glendid a gofal.Diolch am gyfnodau addysgiadol
iawn Lynwen.
Darlith wyddoniaeth
Cafwyd amser hyfryd ac addysgiadol yng nghwmni yr athro A. Willams
yn Felinfach yn ddiweddar.Buodd y plant yn gwrando ar ddarlith
a chymryd rhan mewn gweithdai oedd yn ymwneud a golau a thrydan.
Anwen Eleri
Diolch i Anwen Eleri,trefnydd yr Urdd am ddod i'r ysgol i gymryd
sesiwn o baentio wynebau.Roedd y plant wrth eu boddau yn addurno
eu gwynebau gyda logo'r Urdd a chynlluniau eraill.
Wythnos Llanw Llyfrau
Roedd dosbarth Mrs George a phlant blwyddyn 3 yng Nghanolfan y
Celfyddydau yn ddiweddar i wylio ffilm Tecwyn y Tractor ac ymuno
ym mharti
Ar ol y parti buodd y plant
yn gwrando ar Martyn Geraint yn adrodd storiau.
Cyngerdd yr Urdd
Cymerodd nifer o ddisgyblion yr ysgol, o dan arweiniad Mrs George,ran
yng nghyngerdd yr Urdd yn Theatr Feinfach yn ddiweddar.Pwrpas
y noson oedd i godi arian gogyfer gronfa'r Urdd.Buodd y plant
yn actio hanes Mari Perllan Piter,sef chwedl adnabyddus y pentref.Diolch
i ddisgyblion yr ysgol am berfformio'n arbennig o dda a diolch
hefyd i Mrs George am drefnu'r cyfan.
Llais Aeron 15.10.02
Ymwelodd plant dosbarth Mr Davies ag arddangosfa 'Crucial Crew' yn Llanbedr Pont Steffan ar ddechrau'r mis.Buodd y plant yn gwrando ar wahanol asiantaethaugan gynnwys yr heddlu, yn delio efo diogelwch plant yng Ngheredigion.
Llongyfarchiadau i dim pel-droed a phel-rwyd yr ysgol ar gystadlu mor dda yng nghystadleuaethau'r Urdd yn ystod y mis.
Roedd Cwrdd Diolchgarwch yr ysgol yn yr Eglwys eleni.Thema'r cwrdd oedd heddwch a chyd fyw a phenderfynwyd rhoi'r casgliad o £ tuag at gronfa clefyd y siwgr mewn plant,Aberystwyth.Diolch yn fawr i ddisgyblion yr ysgol i'r rhieni a ffrindiau'r ysgol am gefnogi.
Casglwyd £ ym more coffi Macmillan yr ysgol ar ddiwedd mis Medi.Diolch i bawb am gefnogi'r achlysur ac i'r rhieni am baratoi y lluniaeth a chyfrannu gwobrau gogyfer y raffl.Diolch hefyd i staff yr ysgol a diolch arbennig i Mrs Monica Lloyd am drefniant hwylus a llwyddiannus.
Braf oedd groesawi nyrs Mair i'r ysgol yn ddiweddar i siarad a'r plant am gadw'n iach.Buodd nyrs Mair yn pwyso a mesur y disgyblion ac yn trafod deiet gytbwys ac effaith bwyd ar y corff.Cafwyd sesiwn diddorol ac addysgiadol iawn.
Pob lwc i ddisgyblion blwyddyn 5 a 6 sydd newydd ddechrau ar gwrs beicio'r sir.Pwrpas yr hyfforddiant yw i hyrwyddo diogelwch ar y ffordd. Diolch i Mr Terry Jones a Mr Malcolm Charlton am drefnu a chymryd y plant.
Llais Aeron-Medi 2002
Croeso cynnes iawn i Shannon Nicholas ar ddechrau'r ysgol yn llawn amser ym mis Medi.
Mae Ffrindiau'r Ysgol yn cynnal yn cynnal dawns yng Ngwesty Plu,Aberaeron ar nos Wener,Hydref 16eg.Mae'r tocynau ar werth yn yr ysgol ac yn costio £7:00.Edrychwn ymlaen yn fawr i'ch cwmni ar y noson.
Hoffai staff a llywodraethwyr yr ysgol,groesawi Mr Sion
Walker nol i Bennant ar ol iddo fod am gyfnod gyda'r fyddin yn
Kosova.Mae Mr Walker yn gadeirydd ar lywodraethwyr ysgol y pentref.
Llais Aeron-15/07/02
Arad Goch
Cafwyd amser hyfryd wrth wylio ddramau Arad Goch yn ddiweddar.Buodd
dosbarth Mr Davies yn y theatr ac yn ysgol Llanon yn mwynhau 'Y
Sied' a 'Heri Pers'.Ymatebodd y plant yn dda i'r gweithdai oedd
yn dilyn y perfformiadau.
Criced
Cynhaliwyd cystadleuaeth criced y cylch,yng nghlwb rygbi Aberaeron
yn ystod mis Mehefin.Chwaraeodd nifer o dimau yn arbennig o dda
ond Ysgol Aberaeron aeth ymlaen i gynrychioli'r clwstwr yn y rownd
nesaf-llongfarchiadau.Diolch i bawb am gystadlu i glwb Aberaeron
a diolch arbennig i swyddogion y dydd.
Gweithdai
Yn ddiweddar mae'r plant wedi cael y cyfle i fwynhau gweithdai
yn y meysydd canlynol-dawnsio De Amerig gyda Clare Jenkins,drama
gyda Sue Jones Davies a dawnsio creadigol gyda Cathryn Young.
Chwaraeon Potes( Felinfach)/Diwrnod Hwyl (Aberystwyth)
Diolch i'r Urdd am drefnu Chwaraeon Potes a Diwrnod Hwyl eleni
eto.Roedd plant dosbarth Mr Davies wedi mwynhau y prynhawnau yn
fawr iawn gan fod y gemau yn llawn hwyl a sbri.Llongyfarchiadau
i dim yr ysgol ar berfformio mor dda.
Mabolgampau
Diolch i Ysgol Uwchradd Aberaeron am adael i ni ddefnyddio'r Cae
Hoci i gynnal ein mabolgampau eleni eto.Trefnwyd y plant i dimau
megis Owain Glyndwr,Arthur a Llewelyn er mwyn cystadlu am darianau
amrywiol a chafwyd hwyl wrth wylio'r rhieni'n ymgeisio ennill
y ras wy a lwy a'r ras rhedeg.Roedd Llywelyn yn fuddugol ar ddiwedd
y dydd gyda Keith,Gwenllian,Carys a Jack yn ennill medalau unigol
am y mwyaf o bwyntiau yn ysto y diwrnod.
Trip yr Ysgol
Buodd plant a rhieni'r ysgol i 'Celtica' yn Machynlleth ar drip
ar ddechrau mis Gorffennaf.Roedd y tywydd yn braf a'r ysbryd yn
uchel wrth i'r bws adael y pentref a chafwyd siwrnai hyfryd i
Fachynlleth.Trefnwyd gweithdai gogyfer y plant ar ol iddynt paentio
eu gwynebau a chynhyrchwyd potiau clai cyn mynd am daith drwy'r
brif arddangosfa.Diolch yn fawr iawn i staff 'Celtica' ac enwedig
i Mr William Metcalfe am fod o gymorth yn ystod y dydd.Galwon
yn 'McDonalds' ar y ffordd adref i gael swper cyn cyrraedd yr
ysgol tua 6 o'r gloch gyda phawb wedi mwynhau y dydd ond wedi
blino'n lan.
Llwyddiant
Llongyfarchiadau i Ffion Walker ar ddarllen dros 100 o lyfrau
yng nghynllun Darlle Difyr y sir.
Croeso
Croeso cynnes iawn i Shannon Nicholas sy'n dechrau'r ysgol yn
llawn amser ym mis Medi.
Disgyblion sy'n gadael
Mae Haidee Harvey rown a Keith Ratldge yn gadael ysgol Pennant
ac yn dechrau Ysgol Uwchradd Aberaeron ym mis Medi.Mae'r ddau
yn gyfawydd a'r ysgol ar ol treulio diwrnodau yna yn ddiweddar.Pob
lwc a phob mwynhad i'r ddau ohonoch yn eich ysgol newydd.
Llais Aeron 15.06.02
Bingo a Chwis yr Urdd
Buodd y plant hyn yn chwarae Bingo yn ffreutur Ysgol Uwchradd
Aberaeron.Trefnwyd y noson gan yr Urdd a chafwyd amser bleserus
iawn wrth geisio ennill yr amryw wobrau oedd ar gael.Llongyfarchiadau
hefyd i'r plant aeth i gystadlu yng nghwis yr Urdd yn Aberaeron
yn ddiweddar.
Trip dosbarth Mrs George
Gan mai 'Teithio' yw thema tymor plant Cyfnod Allweddol 1 aeth
y dosbarth ar drip addysgiadol i Botarfynach i wrando ar y stori
enwog a cherdded i'r bont.Yn y prynhawn aeth y plant a'r staff
ar y tren i lawr i Aberystwyth ac yna ymwelwyd a'r amgeueddfa
i ddysgu mwy am yr hen ffordd o deithio.
Theatr Felinfach
Cynhaliwyd Sbort Sadwrn yn ddiweddar fel rhan o ddathliadau penblwydd
y theatr.Roedd y tywydd yn ddiflas ond chafwyd amser hyfryd yn
cystadlu yn erbyn ysgolion eraill yn ystod y prynhawn.Diolch i'r
theatr am drefnu a chynnal y gweithgareddau a diolch I rieni'r
ysgol am gefnogi'r achlysur.
Pel-droed a rownderi i'r merched
Llongyfarchiadau i dimoedd pel-droed a rownderi y merched ar chwarae
mor dda yng nghystadleuaethau y cylch yn ddiweddar.
Ffion
Da iawn Ffion Walker ar lwyddo yng nghystadleuaeth 'Peiriannydd
Ifanc Prydain' yn ystod y tymor.Cydnabwyd y gwaith a derbyniodd
Ffion oriawr a thystysgrif am ei hymdrechion.
Bingo
Trefnwyd noson Bingo gan 'Ffrindiau'r Ysgol' yng Ngwesty'r Plu,Aberaeron
ar ddiwedd mis Mai i godi arian i gronfa'r ysgol.Diolch yn fawr
iawn i Gwyn a Val am wneud y bingo ac i bawb am gefnogi'r achlysur.Codwyd
ymhell dros £400:00 ar ol costau felly unwaith eto diolch
yn fawr iawn i chi gyd.
Llun - Plant dosbarth Mrs George yn barod i deithio ar y tren i Aberystwyth
Llun - Rhieni a phlant yr ysgol yn mwynhau y Bingo yn ddiweddar
Llais Aeron 15/05/02
Lawnsiad safle we
Ers mis Ionawr mae Mr David Williams,Llain wedi bod yn gweithio'n
agos iawn gyda phlant a staff yr ysgol i greu safle we.Rydyn yn
ddiolchgar iawn i David am ei gymorth ac er mwyn cydnabod hyn,gynhaliwyd
lawnsiad swyddogol yn yr ysgol ar nos Iau,Mai16eg.Daeth dorf enfawr,gan
gynnwys rhieni,ffrindiau a llywodraethwyr ynghyd i wrando ar y
plant yn perfformio ac i gael rhagflas o'r safle.Roedd y lawnsiad
yn achlysur arbennig iawn i'r ysgol ac yn deyrnged weddus i gyfraniad
Mr Williams.Felly diolch i bawb am gefnogi'r ddigwyddiad a diolch
neilltuol i Mr David Williams,Llain.
Arwydd newydd yr ysgol
Mae'r ysgol wedi cael arwydd newydd sbon tu allan sy'n adlewyrchu
ethos a logo'r ysgol.Mae'r arwydd yn rhodd gan Mr a Mrs Evans,'Dilsigns'
ac mae'r llywodraethwyr,staff a phlant yn ddiolchgar iawn i Mr
a Mrs Evans am eu cyfraniad.
Arad Goch
Cafwyd amser hyfryd yn ddiweddar wrth wylio'r Arad Goch yn perfformio
'Cadw'n Iach' yn ysgol Llanon.Roedd y ddrama'n seiliedig ar waith
y cwricwlwm a chafodd y plant nifer o weithdai ar ddiwedd yr actio.
Pel rwyd a phel droed
Llongyfarchiadau i dim bel rwyd yr ysgol ar gystadlu mor dda yng
nghystadleuaeth y cylch ar ddiwedd mis Ebrill ac hefyd i dim bel
droed yr ysgol ar ymdrech arbennig yng nghystadleuaeth y cylch
yng Nghei Newydd ar yr un dydd.Da iawn chi.
Llongyfarchiadau
Llongyfarchiadau i Dafydd,Ben,Ffion,Joshua Jones a Sion ar gystadlu
yng nghystadleuaeth celf a chrefft Urdd y sir yn ddiweddar.Llongyfarchiadau
hefyd i Ffion am fod yn llwyddianus iawn yng nghystadleuaeth 'Young
Engineers'
Diolch
Diolch i Mrs Meinir Harries am ei rhodd hael i gronfa'r ysgol
yn dilyn noson gyda Sefydliad y Merched yn y ysgol.
Llais Aeron 15.04.02
Y cyntedd
Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi bod yn gweithio'n galed iawn
i harddi cyntedd yr ysgol yn ddiweddar.Diolch arbennig i'r bobl
canlynol-Mr Arthur Evans,Mrs Aerona Walker a Mr Phil George am
eu hamser ag ymroddiad.
Safle-we
Mae'r ysgol, gyda chymorth Mr David Williams Llain,bron yn barod
i lawnsio safle we yr ysgol yn swyddogol.Os ydych am gip olwg,
fedrwch ymweld a'r safle ar www.ysgolccc.org.uk/pennant. Manylion
a lluniau i ddilyn yn y rhifyn nesaf.
Trawsgwlad y sir
Llongyfarchiadau i Elin Evans ar redeg a chystadlu'n frwd yng
nghystadleuaeth trawsgwlad y sir yn Llangrannog yn ddiweddar.Roedd
Dafydd Jones hefyd yn gymwys i redeg ond yn anffodus roedd yn
sal ar y dydd.
Croeso
Croeso cynnes iawn i Tudur Fychan ar ddechrau'r ysgol yn llawn
amser ar ol y Pasg.
Llais Aeron 15.03.02
Gweithdai
Buodd Polly Henderson yn yr ysgol yn ddiweddar yn cymryd gweithdai
drama gyda phlant Cyfnod Allweddol 1 a 2.Cafwyd amser diddorol
a phleserus, gyda Polly yn ymestyn sgiliau perfformio y plant
mewn ffordd anffurfiol .Cafodd y plant gweithdy gyda Liz Roberts
hefyd, gyda'r nod o ddatblygu sgiliau dawnsio.Eto roedd yn amlwg
bod y plant wedi mwynhau yn fawr iawn.Diolch o gallon i'r ddwy.
Eisteddfodau
Cynhaliwyd Eisteddfod yr ysgol ar ddydd Gwyl Dewi eleni gyda phlant
yr ysgol wedi gwisgo yn eu gwisgoedd Gymreig.Ar ol y cawl hyfryd
i ginio dyma'r cystadlu yn dechrau.Bu'r plant wrthi'n frwd drwy'r
prynahawn yn y gobaith o ennill pwyntiau a chlod i'w timau.Erbyn
y diwedd gyda chystadleuaeth y corau i fynd,roedd hi'n agos iawn
ond
enillodd y dydd.Llongyfarchiadau mawr i'r
plant i gyd a diolch i rieni yr ysgol am baratoi y lluniaeth ac
i rieni a ffrindiau'r ygol am gefnogi'r achlysur.
Llongyfarchiadau i ddisgyblion yr ysgol ar gystadlu mor dda yn Eisteddfod y cylch yn ddiweddar.Reddech i gyd yn ardderchog iawn gyda chlod arbennig i Ben Evans ar ddod yn ail yn adrodd i blant dan 10.Diolch o galon i Mrs George am ei gwaith aruthrol yn hyfforddi'r plant yn ystod yr adeg.
Gymanfa Ganu
Gwahoddwyd yr ysgol i gymryd rhan mewn Gymanfa Ganu yng Nghapel
y pentref yn ddiweddar fel rhan o ddathliadau Clwb Ffermyr Ifanc
Pennant yn drigain oed.Cafwyd dipyn o hwyl a noson hyfryd o ganu
a chyfrannodd y plant amryw eitem yn ystod y Gymanfa.Diolch yn
fawr i'r Clwb am y gwahoddiad a phenblwydd hapus iawn i chi eleni.
Project DT
Gyda chymorth Mr. Sion Walker o'r Ysgol Uwchradd yn Aberaeron,
llwyddodd disgyblion blynyddoedd 4,5 a 6, adeiladu cerbyd bach
o'r enw 'Micromouse' er mwyn cymryd rhan yng nghystadleuaeth 'Gyrfa
Cymru' ym Mhrifysgol Abertawe yn ddiweddar.Cafodd y disgyblion
amryw o brofiadau gan gynnwys defnyddio offer adran dylunio yr
Uwchradd,adeiladu'r cerbyd,dylunio corff i'r cerbyd,cystadlu yn
erbyn cerbydau ysgolion eraill a debyn tystysgrifau a gwobrau
am eu hymdrechion.Diolch yn fawr iawn i Mr. Walker am gynorthwyo'r
plant a diolch hefyd i Ysgol Uwchradd Aberaeron am drefnu bws
gogyfer y gystadleuaeth yn Abertawe.
World Book Day
Braf oedd gweld disgyblion yr ysgol wedi gwisgo fel eu hoff gymeriadau
allan o lyfrau er mwyn dathlu 'World BookDay' ar ddydd Iau,Mawrth
14.Buodd Mr. Iwan Llwyd yn cymryd gweithdai Iaith yn ystod y bore
a threfnwyd ymweliad a Wasg Gomer,Llandysul yn y prynhawn er mwyn
astudio y broses o gynhyrchu / argraffu llyfr.Diolch i Wasg Gomer
am y croeso cynnes a diolch i Iwan Llwyd am fore o weithgareddau
hyfryd.